Tanysgrifiadau uniongyrchol-i-gefnogwyr i artistiaid
Stopiwch ffrydio am geiniogau. Dechreuwch ennill go iawn.
Insidr yw’r platfform tanysgrifio uniongyrchol-i-gefnogwyr lle mae eich cefnogwyr mwyaf brwd yn eich talu bob mis am gerddoriaeth heb ei rhyddhau, demos, mynediad y tu ôl i’r llenni a mwy.
Heb ei rhyddhau · Insidrs yn unig Gwelwyd yn
Y broblem
Does dim angen mwy o wrandawyr arnoch. Mae angen gwell economeg arnoch.
100 o gefnogwyrYn talu £5 y mis ar Insidr
Yn ennill mwy i chi na
100,000 o ffrydiauAr Spotify a llwyfannau tebyg
01
Dyw’r ffigurau ddim yn adio i fyny
Gall incwm ffrydio fod yn anrhagweladwy. Mae tanysgrifiadau misol yn rhoi ffordd arall i’ch gwrandawyr mwyaf ymroddedig gefnogi eich gwaith.
02
Dydych chi ddim yn berchen ar eich cefnogwyr
Mae llwyfannau cymdeithasol ac algorithmau yn rheoli eich cyrhaeddiad. Gydag Insidr, adeiladwch berthynas uniongyrchol ac allforiwch ddata eich cynulleidfa.
03
Mae eich cerddoriaeth heb ei rhyddhau yn ased segur
Demos, fersiynau bras, ochrau B, nodiadau llais a recordiadau byw. Rhowch gysylltiad agosach i’ch cefnogwyr mwyaf brwd â’r gerddoriaeth maen nhw’n ei charu.
Yr ateb
Troi gwrandawyr yn Insidrs.
Cysylltiad agosach. Incwm misol.
- 01
Mae cefnogwyr yn tanysgrifio i chi
Mae eich cefnogwyr — eich Insidrs — yn talu pris misol rydych chi’n ei osod.
- 02
Maen nhw’n ffrydio’ch archif
Cerddoriaeth wedi’i rhyddhau a heb ei rhyddhau, i gyd mewn un ap pwrpasol.
- 03
Rydych chi’n rhannu’r stori o’r tu mewn
Lluniau a fideos y tu ôl i’r llenni, a sgwrsio uniongyrchol.
- 04
Rydych chi’n adeiladu incwm cylchol
Cefnogaeth fisol gan y cefnogwyr sydd eisiau clywed mwy.
Ap Insidr · iOS ac Android
Eich dangosfwrdd artist
Adnabod pob cefnogwr wrth ei enw.
Gwelwch pwy sy’n talu a beth maen nhw’n gwrando arno. Dewch i ddeall eich cynulleidfa, dilyn ymgysylltiad ac allforio data eich cefnogwyr.
Enillion y gallwch eu gweld
Amcangyfrifon misol, Insidrs sy’n talu a dadansoddiad o’r ffioedd.
Data cefnogwyr sy’n eiddo i chi
Eich Insidrs, eu diddordeb a’u dyddiad ymuno — ar gael i’w allforio.
Mewnwelediadau sy’n eich arwain
Darganfyddwch beth mae eich cynulleidfa’n gwrando arno ac adeiladwch ar hynny.


Artist go iawn. Canlyniad go iawn.
£15,013 wedi’i gynhyrchu gan artist annibynnol.
Tanysgrifiadau
£15,013Wedi’i gynhyrchu mewn tua 14 mis
Tanysgrifwyr taledig
235Yn talu’n fisol, yn uniongyrchol
Cefnogwyr yn yr ap
1,556Gellir allforio’r holl ddata
Ad-dalu
~7 misBuddsoddiad cychwynnol wedi’i adennill
Y syms
Rhowch godiad cyflog o 4,000% i chi’ch hun.
Gall yr un cefnogwyr ennill dros 4,000% yn fwy i chi na ffrydio — heb fynd ar ôl algorithmau na mynd yn feirol.
Cefnogwyr yn ffrydio eich cân unwaith y dydd am fis
Mae cefnogwyr yn talu £4.99 y mis. Chi sy’n gosod y pris.
3,000 o ffrydiau, wedi’u talu fesul chwarae.
Gydag Insidr
- Cefnogwyr
- 100
- Misoedd
- 1
- Tanysgrifiad
- £4.99
- Cyfanswm incwm
- £499.00
- Ffioedd Stripe (2.9% + 20c)
- £34.47
- Ein platfform (20%)
- £92.91
- Incwm net yr artist
- £371.62
Gyda llwyfannau ffrydio eraill
- Cefnogwyr
- 100
- Diwrnodau
- 30
- Ffrydiau
- 3,000
- Fesul ffrwd
- £0.004
- Cyfanswm incwm
- £12.00
- Ffioedd Spotify (30%)
- £3.60
- Ffioedd CD Baby (9%)
- £0.76
- Incwm net yr artist
- £7.64
Enghraifft yn unig. Mae pob cefnogwr naill ai’n tanysgrifio am fis neu’n ffrydio eich cân unwaith y dydd am 30 diwrnod, ar £0.004 y ffrwd. Mae taliadau ffrydio yn amrywio yn ôl gwasanaeth, gwlad a chytundeb. Ffigurau cyn treth.
Beth mae artistiaid yn ei ddweud
“Mae’r canlyniad wedi bod yn rhagorol.”
“Mae ein gwrandawyr wedi bod wrth eu bodd ag ansawdd yr ap a pha mor hawdd yw ei ddefnyddio. Mae cynulleidfaoedd cyngherddau byw wedi ymateb yn frwdfrydig iawn i’r syniad o ap ffrydio annibynnol.”
“Syniad mor cŵl am blatfform a dwi’n gyffrous i weld sut mae’n datblygu!”
Isobelle
“Rwy’n gobeithio y bydd Insidr yn cymryd drosodd y diwydiant cerddoriaeth i lwybrau cyffrous newydd.”
Davide
“Mae hyn yn hynod o cŵl ac mae ei angen. Wedi’i lawrlwytho.”
Joshua
“Diolch yn fawr am wneud hyn i ni!”
DJ MonZ
Cwestiynau cyffredin
Cwestiynau, wedi’u hateb.
Dal ddim yn siŵr ai Insidr yw’r dewis iawn i chi? Dewch i gwrdd â’r sylfaenwyr neu cysylltwch â ni.
A allaf uwchlwytho cerddoriaeth sydd ar lwyfannau eraill ar hyn o bryd?
Gallwch. Gall eich Insidrs ffrydio eich cerddoriaeth wedi’i rhyddhau a heb ei rhyddhau mewn un lle, ochr yn ochr â’r cynnwys ecsglwsif y mae tanysgrifwyr yn unig yn ei glywed. Uwchlwythwch recordiadau sydd gennych yr hawliau i’w rhannu yn unig.
Beth os nad oes gennyf unrhyw gerddoriaeth heb ei rhyddhau?
Gall traciau wedi’u rhyddhau, recordiadau byw, straeon y tu ôl i’r llenni a sgyrsiau i gyd helpu cefnogwyr i ddod yn agosach at eich gwaith. Dewiswch beth sy’n teimlo’n werthfawr ac yn gynaliadwy i chi.
Dydw i ddim yn gyfforddus yn rhyddhau cerddoriaeth anorffenedig gyda fy enw arni.
Chi sy’n penderfynu beth i’w rannu. Does dim angen uwchlwytho gwaith anorffenedig. Gallwch gynnig recordiadau gorffenedig, straeon am eich proses, neu fynediad cynnar i’ch rhyddhad nesaf.
Rwy’n poeni na fydd gan fy nghefnogwyr ddiddordeb.
Dechreuwch gyda grŵp bach o’ch gwrandawyr mwyaf ymroddedig. Gofynnwch beth fyddai’n werthfawr iddyn nhw, eglurwch beth mae tanysgrifio’n ei gynnig, ac adeiladwch ar sail eu hadborth. Does dim angen i bob gwrandäwr danysgrifio.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Insidr, Patreon a Bandcamp?
Mae Insidr yn canolbwyntio ar wrando ar gerddoriaeth a pherthynas uniongyrchol rhwng artistiaid a’r cefnogwyr sy’n tanysgrifio. Mae’r platfform cywir yn dibynnu ar beth rydych chi am ei rannu a sut mae eich cynulleidfa am eich cefnogi. Darllenwch ein blog (Saesneg) am ganllawiau i lwyfannau uniongyrchol-i-gefnogwyr.
A allaf greu sawl haen tanysgrifio am brisiau gwahanol?
Cysylltwch â’n tîm cymorth i gadarnhau’r opsiynau prisio sydd ar gael ar gyfer eich cyfrif artist.
Y cam nesaf
Rhowch hwb i’ch incwm heddiw.
Creu eich proffil artist a dechrau adeiladu perthynas uniongyrchol â’ch cefnogwyr.
Dechrau ennill — am ddimCefnogaeth uniongyrchol gan gefnogwyr go iawn